Bwrdd Taliadau

 

Lleoliad:

Conference Room 4B - Tŷ Hywel

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Gwener, 31 Ionawr 2014

 

 

 

Amser:

09.00 - 15.00

 

 

 

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Sandy Blair CBE (Cadeirydd)

Mary Carter

Stuart Castledine

Monojit Chatterji

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Hannah Beacham, Wragge & Co

Richard Bettley

Paul Carberry, Wragge & Co

John Chick, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad

Anna Daniel, Clerc y Pwyllgor Busnes

Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn

Dominic Houlihan

Hannah Johnson

Mark Packham, PwC

Holly Pembridge, Rheolwr Cydraddoldebau

Matthew Richards

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Gareth Price (Clerc)

Daniel Collier (Dirprwy Glerc)

 

 

 

<AI1>

1    Cyflwyniad y Cadeirydd

1.1     Croesawodd y Cadeirydd y Bwrdd i’r cyfarfod.

 

1.2     Cafodd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol ar 18 Hydref a 14/15 Tachwedd eu hadolygu ac yn dilyn awgrym i newid teitl Sandy Blair o Gadeirydd Dros Dro i Gadeirydd, cadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

1.3     Dywedodd yr Athro Monojit Chatterji bod ganddo fuddiant am ei fod wedi'i benodi yn aelod lleyg o Bwyllgor Llefarydd Tŷ'r Cyffredin ar gyfer yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA) yn ddiweddar. Nid oedd buddiannau eraill i'w datgan.

 

</AI1>

<AI2>

2    Materion ar gyfer penderfyniad buan ac ymgynghori/cyfathrebu

 

</AI2>

<AI3>

2.1  Cyflogau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer pumed flwyddyn y Pedwerydd Cynulliad

 

2.1     Trafododd y Bwrdd bapur a luniwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil a oedd yn rhoi gwybodaeth gefndir am y setliad cyflog ar gyfer Aelodau’r Cynulliad yn 2015-16, sef pumed flwyddyn ychwanegol y Cynulliad hwn.

 

2.2     Nododd y Bwrdd fod y Cadeirydd Dros Dro wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd anffurfiol  gydag arweinwyr y pleidiau er mwyn trafod eu cyflogau yn 2015-16.

 

2.3     Nododd y Bwrdd fod y cyflogau eisoes wedi'u rhewi ers pum mlynedd a chytunwyd y dylid ymgynghori â'r Aelodau Cynulliad ynghylch cynigion i gymhwyso dim mwy nag 1% o gynnydd yn y cyflog sylfaenol ar gyfer 2015-16, yn unol â chyflogau'r sector cyhoeddus.

</AI3>

<AI4>

2.2  Cyflogau staff cymorth yr Aelodau -  dyfarniad cyflog 2014-15

 

2.4     Trafododd y Bwrdd bapur a luniwyd gan Gymorth Busnes i'r Aelodau ynghylch cyflogau'r staff cymorth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15.

 

2.5     Cytunodd y Bwrdd y dylid ymgynghori â'r staff cymorth a'r Aelodau Cynulliad ynghylch cynigion i gymhwyso dim mwy nag 1% o gynnydd yn y cyflog ar gyfer 2014-15, yn unol â chyflogau'r sector cyhoeddus.

 

2.6     Cytunodd y Bwrdd i gynnull cyfarfod o grŵp cyfeirio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad i gasglu amrywiaeth eang o safbwyntiau - yn enwedig safbwyntiau staff sy'n gweithio y tu allan i Fae Caerdydd.

</AI4>

<AI5>

2.3  Adolygiad o'r Penderfyniad blynyddol

 

2.7     Trafododd y Bwrdd bapur a luniwyd gan Gymorth Busnes i'r Aelodau yn nodi'r meysydd i'w hystyried fel rhan o'i adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad.

 

2.8     Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ag Aelodau'r Cynulliad ar y cynigion i gynyddu 5% ar y lwfans rhenti ar gyfer Aelodau sydd â'u prif gartref o fewn yr Ardal Allanol, o £700 y mis, i £735 y mis, i adlewyrchu'r newidiadau yn y farchnad rhentu.

 

2.9     Cytunodd y Bwrdd hefyd i ymgynghori ar gynigion i gynyddu'r Lwfans Costau Swyddfa yn unol â chwyddiant (CPI), yn unol â chynnydd y flwyddyn flaenorol.

</AI5>

<AI6>

2.4  Newidiadau posibl i ddarpariaethau trosiannol - grant adsefydlu, eiddo wedi'i forgeisio (eitem lafar)

 

2.11   Trafododd y Bwrdd y darpariaethau trosiannol ar gyfer Aelodau Cynulliad etholedig cyn 2011, gan gynnwys grantiau adsefydlu ac eiddo wedi'i forgeisio.

 

2.12   Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ynghylch sicrhau mai dim ond i ymgeiswyr a gollodd eu seddi yn etholiad 2016 y byddai grant adsefydlu ar gael. Cytunwyd i barhau â'r trefniadau trosiannol ar gyfer eiddo wedi'i forgeisio, gan mai effeithio ar nifer fach o Aelodau y mae hyn, a bod perygl y gallai unrhyw newid olygu cynnydd yn y costau.

 

</AI6>

<AI7>

3    Cyflogau a Phenderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad

 

</AI7>

<AI8>

3.1  The Determination for the Fifth Assembly

 

3.1     The Board considered a paper prepared by the Members’ Business Support on the Determination for Assembly Members for the fifth Assembly and discussed its strategic approach.

 

3.2     The Board agreed to invite key stakeholders, including party leaders, to its meeting on 20 March to take evidence on aspects of the current determination and the development of the Determination for the fifth Assembly.

 

</AI8>

<AI9>

3.2  Cyflogau Aelodau'r Cynulliad yn y Pumed Cynulliad

 

3.3     Trafododd y Bwrdd bapur ynghylch cyflogau Aelodau'r Cynulliad yn y Pumed Cynulliad, a oedd wedi ei baratoi gan y Clerc a'r Gwasanaeth Ymchwil. Bu'r Bwrdd yn trafod amrywiaeth o opsiynau ar gyfer mynegeio ac ystyriwyd opsiynau ar gyfer gwerthuso swyddi.

 

3.4     Cytunodd y Bwrdd i gomisiynu ymarfer gwerthuso swyddi i sicrhau bod y cyfrifoldebau ychwanegol y mae Aelodau'r Cynulliad wedi eu hysgwyddo yn cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y pecyn tâl. Cytunodd y Bwrdd y bydd y gwerthusiad hwn hefyd, am y tro cyntaf, yn cynnwys cyfrifoldebau Gweinidogion ac amryw o swydd-ddeiliaid eraill.

 

3.5     Cytunodd y Bwrdd hefyd i wahodd cynigion i wneud gwaith ymchwil gydag ymgeiswyr ac ymgeiswyr posibl y Cynulliad er mwyn canfod a oes unrhyw agweddau ar dâl yn rhwystro unigolion rhag sefyll i gael eu hethol.

</AI9>

<AI10>

4    Pensiynau

Adolygiad o'r gwaith hyd yma (Papur 4a)

 

4.3     Nododd y Bwrdd y gwaith hyd yma ar y trefniadau pensiwn newydd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad.

 

Ystyried cynigion ar gyfer cynllun newydd

 

4.4     Croesawodd y Cadeirydd Paul Carberry a Hannah Beacham o Wragge & Co a gwahoddwyd hwy i gyflwyno eu drafft o'r adroddiad cyfreithiol ar y trefniadau pensiwn arfaethedig ar gyfer Aelodau'r Cynulliad o fis Ebrill 2015.

 

4.5     Hefyd, croesawodd y Cadeirydd Mark Packham o PwC a gwahoddwyd ef i gyflwyno'r adroddiad cynghorol actiwaraidd cychwynnol.

 

Holodd y Bwrdd Wragge & Co a PwC am eu hadroddiadau.

Cam i’w gymryd:

 

·         Byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn trafod y trefniadau llywodraethu ar gyfer unrhyw gynllun pensiwn arfaethedig gyda'r cynghorwyr cyfreithiol.

 

Opsiynau ar gyfer ymgynghori

 

4.6     Nododd y Bwrdd bapur a luniwyd gan Carys Evans a Richard Bettley yn cynnig opsiynau ar gyfer ymgynghoriad y Bwrdd ar drefniadau pensiwn yr Aelodau. 

 

4.7     Trafododd y Bwrdd opsiynau ymgynghori, gan gynnwys pa randdeiliaid i ymgynghori â hwy, a dull a strwythur yr ymgynghoriad.

 

4.8     Cytunodd y Bwrdd ar broses ymgynghori dau gam.  Byddai'r cam cyntaf ym mis Ebrill/Mai yn canolbwyntio ar y materion ehangach, ac yna cyflwynir cynnig manylach yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

</AI10>

<AI11>

5    Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

5.3     Trafododd y Bwrdd bapur yn nodi'r opsiynau ar gyfer cynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, a ddarparwyd gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau a'r Tîm Cydraddoldeb.

                                                                  

5.4     Cytunodd y Bwrdd y dylai Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb gael ei wneud ar y pecyn Penderfyniad llawn ar gyfer y Pumed Cynulliad.

 

5.5     Cytunodd y Bwrdd hefyd y dylai'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb gael ei wneud gan staff Comisiwn y Cynulliad. Fodd bynnag, cytunwyd y dylid comisiynu corff allanol i gefnogi'r gwaith hwnnw ac i ddarparu cyngor arbenigol.

 

</AI11>

<AI12>

6    Papurau i'w nodi

6.1     Nododd y Bwrdd y rhaglen waith ar gyfer y Bwrdd Taliadau, yr adroddiad ar yr Adolygiad o Gymorth ar gyfer Pwyllgorau, ac adroddiad IPSA ar gyflogau a phensiynau Aelodau Seneddol.

 

Cam i’w gymryd:

 

·                     Yr ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y materion a drafodwyd a'r penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod hwn, ac yn gofyn iddynt ymateb i'r materion yn y nodyn.

 

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>